Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 25 Medi 2019
Amser:
09.00 -
11.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5771
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Alun Davies AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Nick Ramsay AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Elin Jones AC, Y Llywydd, Llywydd Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Chris Warner, Llywodraeth Cymru Matthew Denham-Jones, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Samantha Williams (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol; Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr – Cyfansoddiad a Chyfiawnder; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr – Rheolaethau Ariannol, am Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru).
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Elin Jones AC, y Llywydd; Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid, am Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru).
4.1 Cymeradwywyd y cynnig.
5.1 Eithriodd Mark Reckless ei hun ar gyfer yr eitem hon, ac ni chyfrannodd at adroddiad y Pwyllgor ar graffu ymhellach ar oblygiadau ariannol y Bil.
5.2 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytunodd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad.
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull diwygiedig o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.
9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyr.